Polisi Preifatrwydd

1. Rhagymadrodd

1.1 Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu preifatrwydd ymwelwyr ein gwefan a’n defnyddwyr gwasanaeth.

1.2 Mae’r polisi hwn yn berthnasol pan fyddwn yn gweithredu fel rheolydd data mewn perthynas â data personol ymwelwyr ein gwefan a’n defnyddwyr gwasanaeth; mewn geiriau eraill, lle rydym ni’n pennu dibenion a dulliau prosesu’r data personol hwnnw.

1.3 Trwy ddefnyddio ein gwefan a chytuno i’r polisi hwn, rydych yn cydsynio i’n defnydd o gwcis yn unol â thelerau’r polisi hwn.

1.4 Yn y polisi hwn, mae “ni” ac “ein” yn cyfeirio at G Ceidiog Hughes Cyfyngedig.

2. Credyd

2.1 Crëwyd y ddogfen hon trwy ddefnyddio templed gan SEQ Legal ( https://seqlegal.com).

3. Sut rydym yn defnyddio eich data personol

3.1 Yn yr Adran 3 hon rydym wedi nodi:

(a) y categorïau cyffredinol o ddata personol y gallwn eu prosesu;

(b) y dibenion y gallwn brosesu data personol ar eu cyfer; a

(c) seiliau cyfreithiol y prosesu.

3.2 Mae’n bosibl y byddwn yn prosesu data am eich defnydd o’n gwefan a’n gwasanaethau (“data gwasanaeth“). Gall y data defnydd gynnwys eich cyfeiriad IP, lleoliad daearyddol, math o borwr a fersiwn y porwr, system weithredu, ffynhonnell gyfeiriol, hyd yr ymweliad, edrychiadau ar dudalennau a llwybrau llywio gwefan, yn ogystal â gwybodaeth am amseriad, amlder a phatrwm eich defnydd gwasanaeth. Ffynhonnell y data defnydd yw ein system tracio dadansoddeg. Gellir prosesu’r data defnydd hwn at ddibenion dadansoddi’r defnydd o’r wefan a’r gwasanaethau. Y sail gyfreithiol ar gyfer y prosesu hwn yw cydsyniad.

3.3 Gallwn brosesu eich data personol a ddarperir yn ystod y defnydd o’n gwasanaethau (“data gwasanaeth”). Chi neu’ch cyflogwr yw ffynhonnell data’r gwasanaeth. Gellir prosesu data’r gwasanaeth at ddibenion gweithredu ein gwefan, darparu ein gwasanaethau, sicrhau diogelwch ein gwefan a’n gwasanaethau, cynnal copïau wrth gefn o’n cronfeydd data a chyfathrebu â chi. Y sail gyfreithiol ar gyfer y prosesu hwn yw cydsyniad NEU ein buddiannau cyfreithlon, sef gweinyddiad priodol ein gwefan a’n busnes NEU berfformiad contract rhyngoch chi a ni a/neu gymryd camau, ar eich cais, i ymrwymo i gontract o’r fath.

3.4 Gallwn brosesu gwybodaeth sydd wedi’i chynnwys mewn unrhyw ymholiad y byddwch yn ei gyflwyno i ni ynghylch nwyddau a/neu wasanaethau (“data ymholiad“). Gellir prosesu data ymholiad at ddibenion cynnig, marchnata a gwerthu nwyddau a/neu wasanaethau perthnasol i chi. Y sail gyfreithiol ar gyfer y prosesu hwn yw cydsyniad.

3.5 Mae’n bosibl y byddwn yn prosesu’r wybodaeth a roddwch i ni at ddibenion tanysgrifio i’n hysbysiadau e-bost a/neu gylchlythyrau (“data hysbysiadau“). Gellir prosesu’r data hysbysiadau at ddibenion anfon yr hysbysiadau a/neu gylchlythyrau perthnasol atoch. Y sail gyfreithiol ar gyfer y prosesu hwn yw cydsyniad.

3.6 Mae’n bosibl y byddwn yn prosesu gwybodaeth sydd wedi’i chynnwys mewn unrhyw gyfathrebiad y byddwch yn ei anfon atom, neu’n ymwneud ag ef (“data gohebiaeth“). Gall y data gohebiaeth gynnwys y deunydd cyfathrebu a’r metadata sy’n gysylltiedig â’r cyfathrebiad. Bydd ein gwefan yn cynhyrchu’r metadata sy’n gysylltiedig â chyfathrebiadau a wneir gan ddefnyddio ffurflenni cysylltu’r wefan. Mae’n bosibl y bydd y data gohebiaeth yn cael ei brosesu at ddibenion cyfathrebu â chi a chadw cofnodion. Y sail gyfreithiol ar gyfer y prosesu hwn yw ein buddiannau cyfreithlon, sef gweinyddiaeth briodol ein gwefan a’n busnes a chyfathrebu â defnyddwyr.

3.7 Gallwn brosesu unrhyw ran o’ch data personol a nodir yn y polisi hwn lle bo angen ar gyfer sefydlu, arfer neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol, boed hynny mewn achos llys neu mewn gweithdrefn weinyddol neu y tu allan i’r llys. Y sail gyfreithiol ar gyfer y prosesu hwn yw ein buddiannau cyfreithlon, sef diogelu a mynnu ein hawliau cyfreithiol, eich hawliau cyfreithiol a hawliau cyfreithiol eraill.

3.8 Yn ogystal â’r dibenion penodol y gallwn brosesu eich data personol ar eu cyfer a nodir yn yr Adran 3 hon, gallwn hefyd brosesu unrhyw ran o’ch data personol lle mae prosesu o’r fath yn angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol yr ydym yn ddarostyngedig iddo, neu er mwyn gwarchod eich buddiannau hanfodol neu fuddiannau hanfodol person arall.

3.9 Peidiwch â rhoi data personol unrhyw berson arall i ni, oni bai ein bod yn eich annog i wneud hynny.

4. Darparu eich data personol i eraill

4.1 Gallwn ddatgelu eich data personol i unrhyw aelod o’n grŵp o gwmnïau (mae hyn yn golygu ein his-gwmnïau, ein cwmni daliannol terfynol a’i holl is-gwmnïau) cyn belled ag y bo’n rhesymol angenrheidiol at y dibenion, ac ar y seiliau cyfreithiol, a nodir yn y polisi hwn.

4.2 Gallwn ddatgelu eich data personol i’n hyswirwyr a/neu ymgynghorwyr proffesiynol cyn belled ag y bo’n rhesymol angenrheidiol at ddibenion cael neu gynnal yswiriant, rheoli risgiau, cael cyngor proffesiynol, neu sefydlu, ymarfer neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol, boed hynny mewn achos llys neu mewn gweithdrefn weinyddol neu y tu allan i’r llys.

4.3 NEU mae’n bosibl y bydd trafodion ariannol sy’n ymwneud â’n gwasanaethau yn cael eu trin gan ein darparwyr gwasanaethau talu. Byddwn ond yn rhannu data trafodion gyda’n darparwyr gwasanaethau talu i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddibenion prosesu eich taliadau, ad-dalu taliadau o’r fath ac ymdrin â chwynion ac ymholiadau yn ymwneud â thaliadau ac ad-daliadau o’r fath. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am bolisïau ac arferion preifatrwydd y darparwyr gwasanaethau talu ar wefannau perthnasol y tri darparwr uchod.

4.4 Mae’n bosibl y byddwn yn datgelu data eich ymholiad i un neu fwy o’r cyflenwyr nwyddau a gwasanaethau trydydd parti dethol hynny a nodir ar ein gwefan er mwyn eu galluogi i gysylltu â chi fel y gallant gynnig, marchnata a gwerthu nwyddau a/neu gwasanaethau perthnasol i chi. Bydd pob trydydd parti o’r fath yn gweithredu fel rheolydd data mewn perthynas â’r data ymholiad a ddarparwn iddo; ac ar ôl cysylltu â chi, bydd pob trydydd parti o’r fath yn rhoi copi o’i bolisi preifatrwydd ei hun i chi, a fydd yn llywodraethu defnydd y trydydd parti hwnnw o’ch data personol. Dim ond gyda’ch caniatâd penodol y byddem yn gwneud yr uchod.

4.5 Yn ogystal â’r datgeliadau penodol o ddata personol a nodir yn yr Adran 4 hon, efallai y byddwn yn datgelu eich data personol lle mae datgeliad o’r fath yn angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol yr ydym yn ddarostyngedig iddo, neu er mwyn diogelu eich buddiannau hanfodol neu fuddiannau hanfodol person arall. Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn datgelu eich data personol pan fo datgeliad o’r fath yn angenrheidiol ar gyfer sefydlu, arfer neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol, boed hynny mewn achos llys neu mewn gweithdrefn weinyddol neu y tu allan i’r llys.

5. Trosglwyddiadau rhyngwladol o’ch data personol

5.1 Yn yr Adran 5 hon, rydym yn darparu gwybodaeth am yr amgylchiadau pan all eich data personol gael ei drosglwyddo i wledydd y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE).

5.2 Ddim yn berthnasol – Dim cyfleusterau y tu allan i’r DU

5.3 Mae’r cyfleusterau cynnal a chadw ar gyfer ein gwefan wedi’u lleoli yn y DU

5.4 Lleolir Google Analytics yn UDA. Mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi gwneud “penderfyniad digonolrwydd” mewn perthynas â chyfreithiau diogelu data pob un o’r gwledydd hyn. Ceir rhagor o wybodaeth ar Wefan Google https://privacy.google.com/businesses/compliance/

6. Cadw a dileu data personol

6.1 Ni fydd data personol yr ydym yn ei brosesu at unrhyw ddiben neu ddibenion yn cael ei gadw am gyfnod hwy nag sy’n angenrheidiol at y diben hwnnw neu’r dibenion hynny.

7. Gwelliannau

7.1 Gallwn ddiweddaru’r polisi hwn o bryd i’w gilydd drwy gyhoeddi fersiwn newydd ar ein gwefan.

7.2 Dylech wirio’r dudalen hon yn achlysurol i sicrhau eich bod yn hapus ag unrhyw newidiadau i’r polisi hwn.

7.3 Mae’n bosibl y byddwn yn eich hysbysu o newidiadau i’r polisi hwn drwy e-bost neu drwy’r system negeseuon preifat ar ein gwefan.

8. Eich hawliau

8.1 Gallwch ein cyfarwyddo i ddarparu unrhyw wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch; bydd darparu gwybodaeth o’r fath yn amodol ar y canlynol:

(a) Byddwn yn darparu copi o’r wybodaeth yn rhad ac am ddim. Fodd bynnag, gallwn godi ‘tâl rhesymol’ pan fo cais yn amlwg yn ddi-sail neu’n ormodol, yn enwedig os yw’n ailadroddus.

(b) darparu tystiolaeth briodol o bwy ydych (at y diben hwn, byddwn fel arfer yn derbyn llungopi o’ch pasbort wedi’i ardystio gan gyfreithiwr neu fanc ynghyd â chopi gwreiddiol o fil cyfleustodau yn dangos eich cyfeiriad presennol).

8.2 Mae’n bosibl y byddwn yn dal gwybodaeth bersonol y gofynnwch amdani yn ôl i’r graddau a ganiateir gan y gyfraith.

8.3 Gallwch ein cyfarwyddo ar unrhyw adeg i beidio â phrosesu eich gwybodaeth bersonol

8.4 Yn ymarferol, byddwch fel arfer naill ai’n cytuno’n benodol ymlaen llaw i’n defnydd o’ch gwybodaeth bersonol at ddibenion marchnata, neu byddwn yn rhoi cyfle i chi optio allan o ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol at ddibenion marchnata.

9. Ynghylch cwcis

9.1 Mae cwci yn ffeil sy’n cynnwys dynodwr (llinyn o lythrennau a rhifau) a anfonir gan weinydd gwe i borwr gwe ac sy’n cael ei storio gan y porwr. Yna mae’r dynodwr yn cael ei anfon yn ôl i’r gweinydd bob tro mae’r porwr yn gofyn am dudalen gan y gweinydd.

9.2 Gall cwcis fod naill ai’n gwcis “parhaus” neu’n gwcis “sesiwn”: bydd cwci parhaus yn cael ei storio gan borwr gwe a bydd yn parhau’n ddilys tan ei ddyddiad dod i ben penodol, oni bai ei fod yn cael ei ddileu gan y defnyddiwr cyn y dyddiad dod i ben; bydd cwci sesiwn, ar y llaw arall, yn dod i ben ar ddiwedd sesiwn y defnyddiwr, pan fydd y porwr gwe yn cael ei gau.

9.3 Nid yw cwcis fel arfer yn cynnwys unrhyw wybodaeth sy’n adnabod defnyddiwr yn bersonol, ond mae’n bosibl y bydd gwybodaeth bersonol yr ydym yn ei storio amdanoch yn gysylltiedig â’r wybodaeth sy’n cael ei storio mewn cwcis ac a geir ohonynt.

10. Cwcis a ddefnyddir gennym

10.1 Rydym yn defnyddio cwcis at y dibenion canlynol:

(a) dilysu – rydym yn defnyddio cwcis i’ch adnabod pan fyddwch yn ymweld â’n gwefan ac wrth i chi lywio ein gwefan.

(b) diogelwch – rydym yn defnyddio cwcis fel elfen o’r mesurau diogelwch a ddefnyddir i ddiogelu cyfrifon defnyddwyr, gan gynnwys atal defnydd twyllodrus o fanylion mewngofnodi, ac i ddiogelu ein gwefan a’n gwasanaethau’n gyffredinol.

(c) dadansoddi – rydym yn defnyddio cwcis i’n helpu i ddadansoddi defnydd a pherfformiad ein gwefan a’n gwasanaethau; a

d) caniatâd cwci – rydym yn defnyddio cwcis i storio eich dewisiadau mewn perthynas â defnyddio cwcis yn fwy cyffredinol.

11. Cwcis a ddefnyddir gan ein darparwyr gwasanaeth

11.1 Mae ein darparwyr gwasanaeth yn defnyddio cwcis a gall y cwcis hynny gael eu storio ar eich cyfrifiadur pan fyddwch yn ymweld â’n gwefan.

11.2 Rydym yn defnyddio Google Analytics i ddadansoddi’r defnydd o’n gwefan. Mae Google Analytics yn casglu gwybodaeth am ddefnydd gwefan trwy gyfrwng cwcis. Defnyddir y wybodaeth a gesglir mewn perthynas â’n gwefan i greu adroddiadau am y defnydd o’n gwefan. Mae polisi preifatrwydd Google ar gael yn: https://www.google.com/policies/privacy/.

12. Rheoli cwcis

12.1 Mae’r rhan fwyaf o borwyr yn caniatáu i chi wrthod derbyn cwcis a dileu cwcis. Mae’r dulliau ar gyfer gwneud hynny’n amrywio o borwr i borwr, ac o fersiwn i fersiwn. Fodd bynnag, gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am rwystro a dileu cwcis trwy’r dolenni hyn:

(a) https://support.google.com/chrome/answer/95647?hl=en (Chrome);

(b) https://support.mozilla.org/en-US/kb/enable-and-disable-cookies-website-preferences (Firefox);

(c) http://www.opera.com/help/tutorials/security/cookies/ (Opera);

(d) https://support.microsoft.com/en-gb/help/17442/windows-internet-explorer-delete-manage-cookies (Internet Explorer);

(e) https://support.apple.com/kb/PH21411 (Safari); an

(f) https://privacy.microsoft.com/en-us/windows-10-microsoft-edge-and-privacy (Edge).

12.2 Bydd rhwystro pob cwci yn cael effaith negyddol ar ddefnyddioldeb llawer o wefannau.

12.3 Os byddwch yn rhwystro cwcis, ni fyddwch yn gallu defnyddio’r holl nodweddion ar ein gwefan.

13. Ein manylion

13.1 G Ceidiog Hughes sy’n berchen ar y wefan hon ac yn ei gweithredu.

13.2 Rydym wedi ein cofrestru yng Nghymru a Lloegr dan rif cofrestru 12716053, ac mae ein swyddfa gofrestredig yn 40 Ffordd y Brwcws, Dinbych, LL16 4RQ.

13.3 Ein prif leoliad busnes yw 40 Ffordd y Brwcws, Dinbych, LL16 4RQ.

13.4 Gallwch gysylltu â ni:

(a) drwy’r post, i’r cyfeiriad post a roddir uchod;

b) defnyddio ein ffurflen gysylltu ar y wefan;

(c) dros y ffôn, 01978 350389; neu

(d) drwy e-bost, gan ddefnyddio [email protected] .

14. Swyddog diogelu data

14.1 Manylion cyswllt ein swyddog diogelu data yw: Gruffydd Hughes.